GWEITHGAREDDAU AR Y SAFLE
Mae digon o weithgareddau i gadw gwesteion o bob oed a diddordeb yn brysur drwy gydol eu harhosiad.
Ddwywaith y dydd, gall gwesteion wylio Alwyn y Ffermwr yn godro’r gwartheg, ei helpu i fwydo gweddill yr anifeiliaid ar y fferm (gan gynnwys ŵyn, moch a geifr) a chasglu wyau’r ieir yn barod ar gyfer brecwast … gwrandewch am ganu’r gloch bob bore.
I’r rhai sy’n caru’r awyr agored, mae yna ardal chwarae awyr agored, yn ogystal â chae pêl-droed, cwrt tennis maint llawn a thractorau tegan.
Mae yna ystafell gemau gyda bwrdd pŵl, tennis bwrdd, hoci aer, bwrdd gwyddbwyll/ drafftiau mawr (wedi’i adeiladu yn y llawr) ac ardal chwarae meddal (plant o dan 5 oed yn unig).
I’r rhai mwyaf egnïol yn eich plith, neu i’r rhai sydd am ymlacio, mae pwll nofio dan do wedi’i wresogi hefyd, jacuzzi a sawna, ynghyd â champfa llawn offer.
Yn ystod misoedd yr haf rydym yn cynnal barbeciw wythnosol am ddim ac yna cwis a gêm bêl-droed i ddilyn, i helpu i greu cyfeillgarwch, ac i gael cystadleuaeth.
Sylwch fod y barbeciw’n cael ei gynnal o hanner tymor ddiwedd Mai hyd at ddiwedd mis Awst yn unig.
