MAE CROESO CYNNES YN AROS AMDANOCH YN

Fferm Gwynfryn

Mae Gwynfryn yn fferm laeth organig weithredol yng nghanol Gogledd Cymru ar benrhyn hardd Llŷn.

P’un a ydych chi’n chwilio am ddihangfa ymlaciol, ymgasglu gyda’r teulu neu daith llawn gweithgareddau, gall Gwynfryn ddarparu ar gyfer eich holl anghenion gwyliau.

Tu hwnt i gaeau glaswelltog y fferm, mae bryniau toreithiog a thraethau euraidd Llŷn ar gael yn rhwydd, fel y mae mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri – gallech hyd yn oed ymweld â’r llyn y mae eich bwthyn wedi’i enwi ar ei ôl.

Dim ond milltir i ffwrdd o dref farchnad Pwllheli yr ydym a chwarter awr yn y car o gyrchfan glan môr brysur Abersoch.

NEWYDD – Mae Gwefru EV bellach ar gael ar ein safle

Ein Bythynnod

Mae gennym 13 bwthyn hunanarlwyo llawn offer ac 1 un garafán statigar y safle sy’n cysgu o 2 i 12 o bobl ac sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Nid oes unrhyw ffioedd cudd unwaith y byddwch yn cyrraedd a byddwn yn ymdrechu i wneud eich arhosiad mor gyfforddus â phosibl.

CYFLEUSTERAU

Ar y safle mae gennym bwll nofio dan do 12m wedi’i wresogi, sawna a jacuzzi yn ogystal â champfa llawn offer a chwrt tennis tu allan. Mae yna hefyd ystafell gemau gyda bwrdd pŵl, hoci aer a man chwarae meddal.

GWEITHGAREDDAU AR Y SAFLE

Rydym yn darparu amrywiaeth o weithgareddau fferm i ddiddanu ein gwesteion yn ystod eu harhosiad. Maent yn cynnwys gwylio Alwyn yn godro’r gwartheg, bwydo’r anifeiliaid a chasglu’r wyau yn barod ar gyfer brecwast. Rydym hefyd yn cynnal barbeciw wythnosol yn ystod misoedd yr haf.

ADBORTH A RODDWYD I NI DROS Y BLYNYDDOEDD GAN RAI O’N GWESTEION A’N HYMWELWYR.
.