EIN BYTHYNNOD
Mae gennym 12 bwthyn llawn offer o ansawdd ar y safle sy’n cysgu o 2 i 12 o bobl ac sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, mae gennym garafán statig dwy ystafell wely sy’n cysgu 4.
- Mae gan yr holl eiddo wi-fi am ddim, teledu a chwaraewr DVD, peiriant golchi llestri, microdon ac oergell/rhewgell, a sychwr gwallt.
- Mae’r gwelyau wedi’u gwneud yn barod ar gyfer pan y cyrhaeddwch, a darperir tyweli dwylo a bath (at ddefnydd yn y bythynnod yn unig felly dewch â’ch tyweli traeth eich hun). Darperir llieiniau sychu llestri, cadachau llestri a menig popty hefyd.
- Caiff yr holl westeion ddefnyddio’r tŷ golchi am ddim (dewch â’ch powdr golchi neu dabledi eich hun).
- Mae crudiau a chadeiriau uchel ar gael, yn rhad ac am ddim, os gofynnwch.
- Mae croeso i anifeiliaid anwes (cathod a chŵn yn unig) drwy wneud trefniadau wrth archebu.
I gael rhagor o wybodaeth am ein darpariaethau llety unigol, dilynwch unrhyw un o’r dolenni isod.
LLYDAW
Cysgu 12
Y Carafan
Cysgu 4
BWTHYN
Cysgu 4
CRAFNANT
Cysgu 4
CWELLYN
Cysgu 4
DINAS
Cysgu 4
GLASLYN
Cysgu 4
GWYNANT
Cysgu 4
MYMBYR
Cysgu 7
OGWEN
Cysgu 4
PADARN
Cysgu 8
PERIS
Cysgu 2
TEGID
Cysgu 4
TŶ FFARM
Cysgu 4
