GWYBODAETH I WESTEION

Mae Gwynfryn yn fferm laeth organig weithredol yng nghanol Gogledd Cymru ar benrhyn hardd Llŷn.

Ar y safle, mae 12 bwthyn hunanarlwyo o safon, campfa llawn offer, pwll nofio wedi’i wresogi, sawna a jacuzzi yn ogystal ag ystafell gemau, man chwarae y tu allan a chwrt tennis. Felly, p’un a ydych chi’n chwilio am ddihangfa ymlaciol, ymgasglu gyda’r teulu neu daith llawn gweithgareddau, gall Gwynfryn ddarparu ar gyfer eich holl anghenion gwyliau.

Tu hwnt i gaeau glaswelltog y fferm, mae bryniau toreithiog a thraethau euraidd Llŷn ar gael yn rhwydd, fel y mae mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri – gallech hyd yn oed ymweld â’r llyn y mae eich bwthyn wedi’i enwi ar ei ôl.

Dim ond milltir i ffwrdd o dref farchnad Pwllheli yr ydym a chwarter awr yn y car o gyrchfan glan môr brysur Abersoch.

Mae Fferm Gwynfryn yn cael ei rhedeg gan Alwyn a Sharon sy’n byw ar y safle, felly mae rhywun wrth law bob amser, yn hapus i gynnig cyngor am atyniadau lleol, neu i helpu gydag unrhyw broblemau gan gynnwys ynganu rhai geiriau Cymraeg anodd!

NEWYDD – MAE GWEFRU EV BELLACH AR GAEL I’N GWESTEION.

EIN BYTHYNNOD

EIN CYFLEUSTERAU

GWEITHGAREDDAU